Gwnaeth y ddau dîm fwynhau y profiad o chwarae o dan oleuadau Dol Wiber ar nos Wener. Sgoirodd Castell Newydd pump cais, tri i'r mewnwr, Gwilym Davies a dau i Dafydd Griffiths, a oedd yn chwarae mewn safle gwahanol i'r arfer, yn ganolwr, ciciodd y maswr, Ifan James, 2 drosiad.. 'Roedd y gêm yn agos am y deg munud cyntaf, gyda taclo ffyrnig gan y ddau dîm, cyn i'r tiîm cartref sgorio dau gais cyflym i setlo'r nerfau. Yn yr hanner cyntaf, chwaraeodd Emlyn yn arbennig o dda, gyda'r blaenwyr yn ennill digon o feddiant i'r olwyr cyflym cael rhedeg at ei gwrthwynebwyr. Yn anffodus, ar ol yr egwyl, gwelsom gormod o gicio a cymerwyd yr opsiwn anghywir yn gyson, bydd rhaid gwella os am gyrraedd y rownd derfynol. Pob lwc i'r bechgyn yn y rownd gyndefynol yn erbyn Llandeilo.
Tîm : Osian, Brandon, Ieuan, Jamie, Morgan, Trystan, Steffan, Iestyn; Gwilym, Ifan; Ben, Hari, Dafydd, Peter, Ifan Sion, Trystan.
There doesn't appear to be any tagged photos.
Please wait as the server processes your request. Do not attempt to refresh the page.