'Roedd cyflwr y cae yn wael, ar ol y glaw trwm ond gwnaeth y ddau dîm ymdrechu i chwarae rygbi agored. Daeth cais cyntaf y tîm cartref, ar ol 10 munud, trwy yr wythwr, Iestyn Davies, a wnaeth ddangos cryfder wrth groesu o sgrym gyda Ifan James yn trosi. Ychydig cyn hanner amser fe wnaeth y prop, Osian Davies rhedeg yn gryf lawr yr asgell dde i groesu am ei gais cyntaf. Hanner ffordd trwy'r ail hanner dangosodd y canolwr, Hari Jones ei gyflymder wrth sgorio cais o 40m. O'r ail ddechrau daeth cais gorau'r gêm, fe wnaeth y prop, Ieuan James ddal y bêl o'r gic, cyn trosglwyddo i'r bachwr, Brandon Bradford ac wedyn i Osian Davies a wnaeth wybio 60m am gais. Cais wych i'r rheng flaen, 'roedd Ifan yn llwyddianus gyda'r trosiad i wneud y sgor terfynol yn 24 - 0. Er y sgôr, 'roedd Aberaeron yn gystadleuol ym mhob agwedd o'r chwarae. Dyfarnwyd y gem yn dda gan Andrew Thomson, diolch yn fawr iddo fe.
Tîm ; Osian, Brandon, Ieuan, Connor, Dafi, Trystan, Steffan, Iestyn; Gwilym, Ifan; Ben, Morgan, Hari, Ifan Sion, Dafydd; Jamie.
Nos Wener bydd yr U14's yn croesawu Cwins Caerfyddin i Ddol Wiber yng nghystadlaeaeth Plat Sir Caerfyrddin, cic gyntaf 7:00 o'r gloch.
There doesn't appear to be any tagged photos.
Please wait as the server processes your request. Do not attempt to refresh the page.