Fixture

Carmarthen RFC | Under 14s 0 - 29 Newcastle Emlyn RFC | Under 14s

Match Report
22 February 2015 / Team News

U14's Cwins Caerfyrddin 0 - C N Emlyn 29

Chwaraewyd y gêm yma, mewn tywydd ofnadwy, yn Abergwili, gyda gwynt cryf a glaw trwm.  Nid oedd y tîm wedi chwarae ers canol mis Rhagfyr, felly roedd y bechgyn yn awyddus i chwarae er y tywydd gwael. Yn yr hanner cyntaf chwaraeodd Castell Newy mewn i'r gwynt cryf gyda'r blaenwyr yn cario'r bêl yn dda gyda'r rheng ol o Trystan Edwards, Iestyn Davies a Steffan Davies yn arbennig o gryf. Er y tywydd garw, fe wnaeth y cefnwyr ddefnyddio'r bel yn effeithiol iawn gyda Gwylim Davies ac Ifan James yn lliwior chwarae yn wych.  Daeth 3 cais i'r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf, gyda Dafydd Griffiths, Hari Jones a Steffan Davies yn croesu. Gyda'r gwynt ar glaw wrth ei cefnau yn yr ail hanner, fe wnaeth Emlyn newid ei tactegau, gyda'r mewnwr, Gwylim Davies yn cicio'r bêl yn hir lawr y cae. Sgoriodd, Dafydd Griffiths ei ail gais  ac roedd Ifan James yn llwyddianus gyda 3 trosiad.  Daeth y cais olaf i Brandon Bradford ar ol deg munud or ail hanner, cyn i'r dyfarnwr chwythu i orffen y gêm yn gynnar gan fod y tywydd yn gwaethygu.

Players
Access to player list for this team is restricted. To view the player list you must be logged in and request access.
Gallery

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos
|